Adran y Gymraeg
Mae gan aelodau’r Adran Gymraeg dros gan mlynedd o brofiad dysgu rhyngddynt! Byddwch mewn dwylo da. Dydy hi ddim yn syndod felly bod canlyniadau’r Adran gyda’r gorau yn y teulu o ysgolion rydym yn rhan ohono. Er yn brofiadol, dyma adran gyfoes fywiog sy’n byrlymu gyda gwreiddioldeb syniadau. Ein nod yw codi safon ieithyddol y plant. Nid camp fach mo hyn gan gofio bod mwyafrif ein disgyblion yn dod o gartrefi prin eu Cymraeg. Nod arall yw cadarnhau a chryfhau hunaniaeth Gymreig ein disgyblion. Ein hawydd yw sicrhau eu bod yn gadael yr Adran a’r ysgol yn Gymry cyflawn yn ymwybodol o’n traddodiadau a’n diwylliant. Credwn yn gryf nad iaith yr ystafell ddosbarth yn unig yw’r Gymraeg ond iaith cymdeithasu. |
Y Gyfrinach Fawr
Yr athro gorau a gewch yw chi eich hunan! Dim ond teirawr o wersi Cymraeg a roddir mewn wythnos. Rhaid felly bwrw ati i ddatblygu geirfa a chystrawen, dywediadau a sillafu drwy ddarllen personol. Mae gan yr Adran lyfrgell ym mhob dosbarth dysgu. Disgwylir i bob disgybl ddarllen yn rheolaidd. Wele isod restr o awduron y dylai pob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3 fod yn gyfarwydd a’u gwaith. Beth am brynu neu fenthyg ambell lyfr oedd ar restr fer llyfr y flwyddyn 2013 neu ddarllen rhai o weithiau’r canlynol: Caryl Lewis Bethan Gwanas T Llew Jones Gareth F Williams Elgan Phillip Davies Gwyneth Glyn Bedwyr Rees A Llyfrau Dalen sef Tintin, Triawd Amser, Lewsyn Lwcus Emily Huws Manon Steffan Ros Sonia Edwards |